Image. Specialist support for voluntary and community groups and volunteers in carmarthenshire
english
Hafan / Cefnogaeth ar gyfer grwpiau :

Adnoddau

Mae gan CGGSG amrywiaeth o offer a gwasanaethau gweinyddol i helpu 'ch mudiad chi.


Gwasanaeth benthyg offer hyfforddiant a swyddfa

Mae gennym amrywiaeth o offer sydd ar gael i'w benthyg yn rhad ac am ddim i fudiadau gwirfoddol a chymunedol am gyfnod byr. Prynwyd mwyafrif yr offer gyda grant gan ELWa (Dysgu ac Addysgu Cymru) yn Ionawr 2002, a'r nod yw eu darparu er mwyn eu defnyddio mewn digwyddiadau hyfforddiant ac arddangosfeydd.

Mae'r offer yn cynnwys: uwchdaflunydd digidol, camera digidol, camera fideo digidol, offer cyfieithu ar y pryd, lwp clywed symudol, Teledu/Fideo, uwchdaflunwyr, sgriniau taflunio, siartiau fflip.

Fe fydd angen siec o £50 arnoch fel blaendal er mwyn benthyg un eitem neu nifer o eitemau mewn un benthyciad. Fe fyddwch yn cael y siec yn ôl pan fydd staff CGGSG wedi derbyn yr offer yn ôl.

ddarganfod mwy ac i archebu eitemau, ffoniwch y swyddfa ar 01267 236367 a siaradwch â'r tîm gweinyddol.

 

HURIO YSTAFELL GYFARFOD

Mae yna ystafell gyfarfod maint canolig yn swyddfa CGGSG, ac mae ar gael i'w hurio. Mae'r ystafell yn addas ar gyfer cyfarfodydd o gwmpas y bwrdd neu ddigwyddiadau hyfforddiant ar gyfer hyd at 20 o bobl. Ar hyn o bryd, mae'r ystafell ar gael am hanner diwrnod ar y tro, o 9.30 yb - 1 yp, 2 yp - 4.30 yp.

Cost is £10 per half day for CAVS members, and £12.50 per half day for non-members. To find out how to become a member of CAVS cliciwch yma.

Ffoniwch y tîm gweinyddol ar 01267 236367 i gadw'r ystafell.

 

GWASANAETHAU YSGRIFENYDDOL

Mae'r tîm gweinyddol yn darparu amrywiaeth o wasanaethau ysgrifenyddol, sydd wedi'u targedu'n bennaf at grwpiau bach, ond sydd ar gael i bawb. Mae'r gwasanaethau yn cynnwys help gyda phosteri / taflenni / tocynnau, llungopio, lamineiddio, sleidiau tryloyw ar gyfer uwchdaflunydd, plygu, ffacsys, a thorri papur.

Mae'r cyfraddau'n rhesymol, ac mae yna gyfraddau gostyngol i aelodau CAVS.

 

LLYFRGELL GYFEIRIO

Mae gennym amrywiaeth eang o gyhoeddiadau, cylchlythyron, a dogfennau sydd ar gael fel adnodd cyfeiriol yn swyddfa CGGSG yng Nghaerfyrddin. Rydym hefyd yn gallu llungopio darnau byr ar eich cyfer. I gael mynediad at y llyfrgell gyfeirio, ffoniwch Clare Withey, Swyddog Gwybodaeth ar 01267 236367, neu Ebostiwch info@cavs.org.uk


Nôl i'r brig

Tŷ Carwyn, 3 Heol San Pedr Caerfyrddin SA31 1LN
Ffôn: 01267 236367
Ebost: info@cavs.org.uk
Cyfarwyddwr: Ieuan Williams
Copyright© Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr
Elusen Gofrestredig Rhif 1062144. Cwmni Cyfyngedig Trwy Warant Rhif 3348742


Web Site Design - Bat Design | Web Site Hosting - Web Host Wales