Mae yn becyn adnoddau hyfforddiant sy'n codi ymwybyddiaeth o fwyta'n iach sylfaenol, gan gynnwys gweithgarwch corfforol. Yr hyn sy'n gwneud yr adnodd mor unigryw yw ei fod wedi ei gynllunio i gysylltu at wybodaeth a sgiliau craidd Sgiliau Sylfaenol. Mae hefyd wedi'i anelu'n benodol at weithio gyda grwpiau cymunedol.
Strwythurwyd yr adnodd yn Ddeg Uned, a gellir ei ddefnyddio gydag unigolion a grwpiau sydd ag anghenion sgiliau sylfaenol a'r rheiny sydd heb. Gellir ennill tri chredyd y RhCA am gwblhau'r holl Unedau. Mae adran y tiwtor yn rhoi gwybodaeth hanfodol ynghylch sut i ddefnyddio'r adnodd.
Dyma'r Unedau:
- Uned 1: Beth yw ffordd iachach o fyw?
- Uned 2: Cydbwysedd iechyd da; y pum grwp bwyd
- Uned 3: Ffynhonnell maetholion
- Uned 4: Dognau bwyd
- Uned 5: Labeli bwyd
- Uned 6: Dewisiadau bwyd iachach
- Uned 7: Coginio iachach
- Uned 8: Cadw costau bwyd i lawr
- Uned 9: Glendid bwyd
- Uned 10: Deall arferion bwyta.
- Ryseitiau: Detholiad o ryseitiau iach y gellir eu defnyddio ymhob sesiwn.
Mae'r sesiynau'n hyblyg, ac yn ymgorffori'r cyfle i baratoi prydau bwyd gan ddefnyddio sgiliau ymarferol. Caiff dysgwyr eu hannog i osod targedau wythnosol personol, sy'n helpu ysgogiad ac yn cryfhau'r dysgu.
Hoffech chi gyflwyno'r cwrs?
Cynigir sesiwn hyfforddiant 3 awr RHAD AC AM DDIM i unrhyw un sydd am gyflwyno'r cwrs. Yna, mae deunydd y cwrs ar gael i'w benthyg yn RHAD AC AM DDIM naill ai ar bapur neu ar ffurf CDRom.
Cipolwg ar Uned Un
Cliciwch Yma i gael cipolwg ar Uned Un y cwrs (3.6Mb PDF, amser lawrlwytho: 1 munud ar fand eang).