Mae Cyrsiau ar gyfer Cymunedau Cymru yn rhaglen genedlaethol newydd o hyfforddiant fforddiadwy ar gyfer grwpiau cymunedol a gwirfoddol a ddarperir drwy bartneriaeth rhwng cynghorau gwirfoddol sirol (CGS), canolfannau gwirfoddolwyr a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA).
Lawrlwythwch Rhaglen Hyfforddiant Yma (375KB PDF)
Mae’r rhaglen yn cynnwys 54 o gyrsiau hyfforddi ac yn anelu at gynnwys popeth ynghylch rhedeg grwˆ p gwirfoddol neu gymunedol - o wybodaeth ynghylch sut i droi eich syniadau’n brosiect, i ganfod ffynonellau ariannu, cyflogi pobl, rheoli eich arian a hyrwyddo’ch prosiect.
Y mae’r hyfforddiant hwn a luniwyd yn bwrpasol ar gyfer y sector gwirfoddol ar gael am £20* y person neu lai - sy’n golygu ei fod o fewn cyrraedd grwpiau gwirfoddol bach a mawr fel ei gilydd. Bydd pob un o’r 54 cwrs yn rhedeg o leiaf unwaith ym mhob un o saith rhanbarth Cymru - gweler y map ar dudalen 2.
I archebu lle ar un o ddigwyddiadau hyfforddi Cyrsiau ar gyfer Cymunedau Cymru, cysylltwch â’r cyngor gwirfoddol sirol sy’n cyflwyno’r cwrs hwn yn eich ardal - rhestrir manylion cysylltu pob cyngor gwirfoddol sirol hefyd ar dudalen 2.